The Civil Enforcement of Bus Lane and Moving Traffic Contraventions (County of Carmarthenshire) Designation Order 2018 / Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Sir Gaerfyrddin) 2018

This Order designates the county of Carmarthenshire as a civil enforcement area for bus lane and moving traffic contraventions for the purposes of Part 6 of the Traffic Management Act 2004. The county of Carmarthenshire is already designated as a civil enforcement area for parking contraventions under that Act by the Road Traffic (Permitted Parking Area and Special Parking Area) (County of Carmarthenshire) Order 2004 (S.I. 2004/104 (W. 11)), which is deemed by paragraph 8(4) of Schedule 8 to the Act to be an order designating the area as a civil enforcement area for parking contraventions under paragraph 8 of Schedule 8 to the Act.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi Sir Gaerfyrddin yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau a thraffig sy’n symud at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae Sir Gaerfyrddin eisoes wedi ei dynodi yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio o dan y Ddeddf honno gan Orchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Sir Gaerfyrddin) 2004 (O.S. 2004/104 (Cy. 11)), y’i bernir gan baragraff 8(4) o Atodlen 8 i’r Ddeddf i fod yn orchymyn sy’n dynodi’r ardal yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio o dan baragraff 8 o Atodlen 8 i’r Ddeddf.

Link:

The Civil Enforcement of Bus Lane and Moving Traffic Contraventions (County of Carmarthenshire) Designation Order 2018 / Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Sir Gaerfyrddin) 2018


Source: Legislation .gov.uk

The Plant Health etc. (Fees) (Wales) Regulations 2018 / Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

These Regulations, which apply to Wales, specify fees payable to the Welsh Ministers in relation to plant health services and the certification of seed potatoes, fruit plants and fruit plant propagating material. They revoke and replace the Plant Health Fees (Wales) Regulations 2014 (S.I. 2014/1792 (W. 185)).

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu’r ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd, planhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ffioedd Iechyd Planhigion (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1792 (Cy. 185)).

Link:

The Plant Health etc. (Fees) (Wales) Regulations 2018 / Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018


Source: Legislation .gov.uk