The School Performance and Absence Targets (Wales) (Amendment) Regulations 2019 / Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019

The School Performance and Absence Targets (Wales) Regulations 2011 (“the 2011 Regulations”) require governing bodies of maintained schools in Wales to set targets relating to school performance and unauthorised absence rates of pupils.

Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru osod targedau sy’n ymwneud â pherfformiad yr ysgol a chyfraddau absenoldeb anawdurdodedig y disgyblion.

Link:

The School Performance and Absence Targets (Wales) (Amendment) Regulations 2019 / Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019

Source: Legislation .gov.uk

The Civil Enforcement of Parking Contraventions (County Borough and City of Newport) Designation Order 2019 / Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd) 2019

This Order designates the area described in the Schedule to this Order as a civil enforcement area for parking contraventions and a special enforcement area for the purpose of Part 6 of the Traffic Management Act 2004. This Order enables the Council of the County Borough and City of Newport to enforce parking contraventions within the area described in the Schedule to this Order through a civil law regime, as opposed to enforcement by police or traffic wardens in a criminal law context.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae’r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.

Link:

The Civil Enforcement of Parking Contraventions (County Borough and City of Newport) Designation Order 2019 / Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd) 2019

Source: Legislation .gov.uk

The Civil Enforcement of Parking Contraventions (County Borough of Torfaen) Designation Order 2019 / Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Torfaen) 2019

This Order designates the area described in the Schedule to this Order as a civil enforcement area for parking contraventions and a special enforcement area for the purpose of Part 6 of the Traffic Management Act 2004. This Order enables Torfaen County Borough Council to enforce parking contraventions within the area described in the Schedule to this Order through a civil law regime, as opposed to enforcement by police or traffic wardens in a criminal law context.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae’r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.

Link:

The Civil Enforcement of Parking Contraventions (County Borough of Torfaen) Designation Order 2019 / Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Torfaen) 2019

Source: Legislation .gov.uk