This Order amends article 19 of the Plant Health (Wales) Order 2018 which applies to certain plants intended for planting, which have been grown or are suspected to have been grown in another member State or in Switzerland. It requires the importer of any such plants to notify an authorised inspector in writing of their landing no later than four days after the date of their landing in Wales. The amendment extends these requirements to plants of Olea europaea L.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 19 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018 sy’n gymwys i blanhigion penodol a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i fewnforiwr unrhyw blanhigion o’r fath hysbysu arolygydd awdurdodedig mewn ysgrifen am eu glaniad ddim hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl dyddiad eu glaniad yng Nghymru. Mae’r diwygiad yn estyn y gofynion hyn i blanhigion Olea europaea L.
Source: Legislation .gov.uk