These Regulations, which apply in relation to Wales, make provision in connection with the Clinical Negligence Scheme for NHS Trusts and Local Health Boards in Wales (“the Scheme”). The Scheme enables members exercising functions in connection with the National Health Service in Wales to make provision for meeting liabilities to which the Scheme applies. These Regulations revoke and replace the National Health Service (Clinical Negligence Scheme) Regulations 1996 (S.I. 1996/251).
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG a’r Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru (“y Cynllun”). Mae’r Cynllun yn galluogi aelodau sy’n arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i wneud darpariaeth ar gyfer bodloni atebolrwyddau y mae’r Cynllun yn gymwys iddynt. Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) 1996 (O.S. 1996/251).
Source: Legislation .gov.uk